Wednesday, 24 September 2008

Mae hi wedi bod yn amser hir!

Dw i wedi penderfynnu aildechrau y blog. Dw i'n gwneud TAR (PGCE yn Saesneg) uwchradd - i ddysgu Cemeg. Mae rhaid i ni dreilio amser mewn dwy ysgol. Dw i'n mynd i ysgol Saesneg yn gyntaf ond gobeithio yr af i i ryw ysgol Cymraeg (dysgu Cemeg trwy'r gyfrwng Gymraeg) ar ol y Nadolig i wneud fy ail placement.
Cyn hynny bydd rhaid i fi weithio'n galed i godi safon fy Nghymraeg! Erbyn hyn, dw i'n dysgu Cymraeg ers tamaid dros un flwydden. Dw i'n dal i wneud cwrs Cymraeg hefyd (Uwch 3) a fel rhan o'r cwrs TAG dyn ni'n dilyn cwrs "astudiau proffesiynol", drwy drugaredd mae 'na grwp Cyrmaeg a dw i wedi ymuno a nhw, felly er bod y darlithoedd yn Saesneg - yn ein grwp, bob wythnos, dyn ni'n trafod y pwnciau yn Gymraeg a dyn ni'n cael gwneud y aseiniadau yn Gymraeg hefyd os oes eisau arnon ni. Dw i ddim wedi penderfynnu eto a wna i nhw yn Cymraeg neu Saesneg. Dw i'n meddwl y gwna i nhw yn Saesneg oherwyd fy mod i'n methu credu bod fy Nghymraeg yn ddigon da.
Dyna prif reswm dw i'n gwneud y blog eto - Mae angen yr ymarfer arna i. Y cynllun yw, defnyddio hyn fel rhyw fath o ddyddiadur a postio cymaint a phosib - cawn ni weld!

No comments: