Thursday, 25 September 2008

Dim ond 1 wythnos nes i fi fynd yn ol i ysgol

Mae un wythnos ar ol 'da fi yn y prifysgol ac wedyn bydda i'n mynd i wneud fy ymarfer cyntaf mewn ysgol uwchradd. Bydd e'n ddiddorol, dw i'n siwr! Ond, dim ond arsylwi bydda i'n ei wneud am y pythefnos cyntaf, dw i'n credu. Er gwaethaf hynny bydd llawer o waith i'w wneud gyda aseiniadau i'w hysgrifennu. Ac hefyd, rhaid i fi gadw at wella fy Nghymraeg. Bydd rhaid i fi wneud sicr na fydda i'n anghofio amdano fe wrth i fi ganolbwnio ar y gwaith ysgol i gyd, fel arall fydda i ddim yn barod i fynd i ysgol Cymraeg ar ol y Nadolig ar gyfer fy ail ymarfer. Wedi'r cyfan yr holl diben penderfynais i wneud y TAR oedd i wneud rhybeth lle byddwn i'n cael y cyfle defnyddio Cymraeg.

No comments: