Monday, 29 September 2008

Wythnos 3 y cwrs TAU

Ces i fy nosbarth astudiau proffesiynol heddiw, lle dyn ni'n trafod y pwnc yn Gymraeg (Rheoli ymddygiad y dosbarth oedd y testun). Mae'n cyfle da i fi ymarfer fy Nghymraeg trwy drafod pethau nad ydw i'n cael siarad amdanyn fel arfer - pethau sy'n dipyn bach yn haniethol. Dw i'n cael anodd achos hyn ond gobiethio bydd e'n fy helpu fi ehangu fy iaith.
Dw i'n edrych ymlaen at yr wythnos nesa pan fydda i yn yr ysgol, bydd un arall o'r cwrs TAU sy'n gwneud cemeg hefyd yno, ac maen nhw'n siarad Cymraeg yn rhugl felly gobiethio y galla i cael sians ymarfer a hi bob dydd - tipyn bach o leia, ta beth. Hoffwn i gael edrych ar ddosbarth Cymraeg, tasai fe'n bosib, dw i'n credu bydda i'n dilyn un grwp o gwmpas am un dydd o leia ac eistedd i mewn ar bob un o'u dosbarthiadau am y dydd hwnnw. Cawn ni weld. Ond dw i'n sicr y caf i'r cyfle cael sgwrs a un neu ddau o'r athro Cymraeg er y bydda i yno gwneud cemeg.

Thursday, 25 September 2008

Dim ond 1 wythnos nes i fi fynd yn ol i ysgol

Mae un wythnos ar ol 'da fi yn y prifysgol ac wedyn bydda i'n mynd i wneud fy ymarfer cyntaf mewn ysgol uwchradd. Bydd e'n ddiddorol, dw i'n siwr! Ond, dim ond arsylwi bydda i'n ei wneud am y pythefnos cyntaf, dw i'n credu. Er gwaethaf hynny bydd llawer o waith i'w wneud gyda aseiniadau i'w hysgrifennu. Ac hefyd, rhaid i fi gadw at wella fy Nghymraeg. Bydd rhaid i fi wneud sicr na fydda i'n anghofio amdano fe wrth i fi ganolbwnio ar y gwaith ysgol i gyd, fel arall fydda i ddim yn barod i fynd i ysgol Cymraeg ar ol y Nadolig ar gyfer fy ail ymarfer. Wedi'r cyfan yr holl diben penderfynais i wneud y TAR oedd i wneud rhybeth lle byddwn i'n cael y cyfle defnyddio Cymraeg.

Wednesday, 24 September 2008

Mae hi wedi bod yn amser hir!

Dw i wedi penderfynnu aildechrau y blog. Dw i'n gwneud TAR (PGCE yn Saesneg) uwchradd - i ddysgu Cemeg. Mae rhaid i ni dreilio amser mewn dwy ysgol. Dw i'n mynd i ysgol Saesneg yn gyntaf ond gobeithio yr af i i ryw ysgol Cymraeg (dysgu Cemeg trwy'r gyfrwng Gymraeg) ar ol y Nadolig i wneud fy ail placement.
Cyn hynny bydd rhaid i fi weithio'n galed i godi safon fy Nghymraeg! Erbyn hyn, dw i'n dysgu Cymraeg ers tamaid dros un flwydden. Dw i'n dal i wneud cwrs Cymraeg hefyd (Uwch 3) a fel rhan o'r cwrs TAG dyn ni'n dilyn cwrs "astudiau proffesiynol", drwy drugaredd mae 'na grwp Cyrmaeg a dw i wedi ymuno a nhw, felly er bod y darlithoedd yn Saesneg - yn ein grwp, bob wythnos, dyn ni'n trafod y pwnciau yn Gymraeg a dyn ni'n cael gwneud y aseiniadau yn Gymraeg hefyd os oes eisau arnon ni. Dw i ddim wedi penderfynnu eto a wna i nhw yn Cymraeg neu Saesneg. Dw i'n meddwl y gwna i nhw yn Saesneg oherwyd fy mod i'n methu credu bod fy Nghymraeg yn ddigon da.
Dyna prif reswm dw i'n gwneud y blog eto - Mae angen yr ymarfer arna i. Y cynllun yw, defnyddio hyn fel rhyw fath o ddyddiadur a postio cymaint a phosib - cawn ni weld!