Wednesday, 6 February 2008

Y dechreuad

Achos bod hyn yn fy mhost cyntaf, hoffwn i ddechrau trwy esbonio pam dw i'n gwneud blog yn y lle cyntaf. Dw i wedi cyrraedd y pwynt ble dw i angen ymarfer tu ma's i'r dosbarth cymaint a phosib. Ond dw i ddim yn nabod unrhywun sy'n gallu siarad Cymraeg, felly mae'n anodd i fi gael cyfleoedd i siarad a phoble arall trwy Gymraeg. Fel arfer bydda i'n mynd i ddigwyddiad sy'n cael eu trefnu gan Fenter Iaith Caerffili fel y bore Coffi yn y Coed Duon, ond dw i eisiau gwthio fy hunan mwy na hyn! Felly, Dyma rheswm am y blog.
Mae tri dosbarth gyda fi'r wythnos, felly bydda i'n ceisio blog ar ol pob un. Byddan ni'n gweld am ba mor hir y bydda i'n gallu cadw hyn lan?! Ar hyn o bryd dw i'n eitha brwd ac mae'r amser gyda fi, ond bydda i'n dechrau swydd newydd ym mis Mawrth, felly mae'n debynu ar faint o amser sy gyda fi ar ol hynny. Bydda i'n wastad ceisio blog unwaith yr wythnos o leia.
Wnes i ddim GCSE Gymraeg mewn ysgol - dewisais i Ffrangeg yn lle, ond doedd dim unrhy diddordeb gyda fi yn iaithiau o gwbl, pan ro'n i yn ysgol. Y tro cyntaf ceisias i ddysgu Cymraeg oedd ar y cwrs Wlpan yn Abertawe - saith mlynedd yn ol. Ond wnes i ddim byd tu ma's y dosbarth ac wnes i ddim dysgu llawer. Anghofias i bobeth cyn bo hir. Y llynedd des yn ol i Gymru ar ol teithio o gwmpas Awtralia a Thailand a phenderfynais i geisio dysgu unwaith eto. Doedd dim swydd gyda fi felly roedd llawer o amser gyda fi. Es i yn ol dros fy nodiau o'r cwrs Wlpan - treulio llawer o oriau bob dydd, hefyd benthycais i'r llyfr "teach yourself Welsh". Yn araf, Gweithiais i trwy y dau ohonyn nhw ac erbyn mis Medi ro'n i'n barod dechrau y cwrs Canolradd. Mwynhauais i' cwrs yma, ond dim ond dau awr yr wythnos oedd e. R'n i eisiau cwrs mwy dwys na hynny pan ffeindias i ma's am y cwrs dwys ym Mhentre Eglwys dau mis yn ol, ymunais i a'r cwrs yn syth bant.

2 comments:

Emma Reese said...

Go dda ti, Dai! Gwych o nabod dysgwr arall sy'n awchus. Mi edrycha i ymlaen at ddarllen dy flog.

neil wyn said...

S'mae Dai,

Mwynheuais i ddarllen dy flog, pob lwc gyda chadw hi ymlaen. Dwi ddim wedi bod yn cynnal fy mlog fi yn anffodus dros y misoedd diwetha, ond mae'n ymarfer dda yn sicr.

Mae'n hollbwysig i ddod o hyd i gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg tu allan i'r dosbarth. R'o ni'n dysgu ar ben fy hun i ddechrau, felly roedd hi'n hanfodol i mi.

Fel ti, dwi'n mynychu digwyddiadau Menter iaith (Sir y Fflint), ac mae'r sesiwn sgwrs wthnosol (yn y tafarn :)) wedi bod yn hwb mawr i mi.

edrychaf ymlaen at darllen mwy!