Friday, 8 February 2008

Hanner Tymor

Gorffenon ni am hanner tymor heddiw. Felly penderfynodd Maldwyn (ein tiwtor) y basen ni orffen yn gynnar a mynd i'r bore coffi yn Llantrisant. Do'n i ddim wedi bod yn Llantrisant o'r blaen, sylweddolais i ddim bod y pentre mor neis. Mae hi'n pentre bach a phert iawn. Aethon ni i'r "Butchers" i gwrdd a'r grwp sy'n siarad Cymraeg. Dw i'n mwynhau cael y cyfle siarad Cymraeg, a roedd e'n diddorol crwdd a siarad a phobl newydd.
Achos ei fod e'n hanner tymor wythnos nesa, dw i'n meddwl y bydda i'n ceisio mynd i lawr Caerdydd i'r bore coffi ar bore dydd Mawrth yn y Mochen Du. Efallai y bydda i'n mynd i'r Mochen Du yfory am un neu dau peint achos y bydda i yng Nghaerdydd am y rygbi. Does dim tocyn gyda fi, ond dw i'n sicr y bydda i'n feindio ffordd i fwynhau fy hunan!
Ta beth: pob lwc i Gymru yfory, bydda i'n ceisio rhoi fy meddyliau am y gem dydd Sul neu dydd Llun. (Dydd Llun siwr o fod, dw i'n meddwl y bydd pen tost gyda fi ar ddydd Sul!)

Hoffwn i ddweud: diolch yn fawr i Emma a Neil Wyn am y sylwadau caredig ac anogaeth (=encouragement??)

1 comment:

Linda said...

Helo Dai !
Wedi dod ar draws dy flog di drwy weld linc ar flog emma reese.Gobeithio i ti fwynhau dy hun yng Nghaerdydd ac yn y Mochyn Du. 'Roeddwn yng Nghaerdydd mis Rhagfyr diwethaf , ac wedi meddwl picio i mewn yno, ond gefais i ddim amser.Yn clywed ei fod yn le da!
Croeso i fyd y blogio gyda llaw :)