Dw i wedi bod yn diog yr wythnos yma, achos does dim dosbarthiadau. Ond Es i i'r Bore Coffi ym Medwas (dydd Llun) ac yn Y Coed Duon (y bore yma). Fel arfer dw i ddim yn gallu mynd i'r bore coffi ym Medwas - achos bob dosbarth gyda fi ar y un amser. Felly ro'n i eisau gwnaud y mwya o'r cyfle yr wythnos yma. Dw i'n mwynhau'r bore coffi achos eu bod nhw'n cyfle i gael sgwrs yn Gymraeg am beth bynnag. Llawer o bobl sy'n mynd i'r bore yn Y Coed Duon (tua ugain) a phob wythnos y fenywod i gyd eistedd ar y un ochr ac y dynion i gyd eistedd ar yr ochr arall. Mae llawer o lefel gwahaniol o Fynediad i bobl sy'n rhugl.
Ar ddydd Sadwrn mae ysgol un dydd ym Medwas - bydd e'n dechrau am hanner awr wedi naw a bydd e'n gorffen hanner awr wedi tri. Fel arfer mae un neu dau ysgol un dydd sy'n cael ei drefnu gan Coleg Gwent o gwmpas Gwent y mis. Yr un olaf oedd yn Nhrefnwy pythefnos yn ol, ond es i ddim i'r hwn. Maen nhw'n defnyddiol iawn.
Dw i angen mynd i lawr Abertawe i chwilio am Fflat cyn bo hir - bydda i'n dechrau fy swydd newydd y degfed o Fawrth a dw i ddim wedi gwneud unrhwy beth eto. Dw i wastad gadael pethau i'r munud olaf! Dylwn i ddechrau ffonio o gwmpas yfory.
Bydd hynny'n gwneud heddiw - Siarad eto'n fuan
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
1 comment:
Dw i'n cydymdeimlo: dw i wedi bod yn teimlo'n diog ar gyfer blogio yn ddiweddaraf hefyd.
Pob lwc efo dy chwiliad fflat! Gobeithio dy fod ti'n medru darganfod fflat neis yn fuan!
Post a Comment