Dw i wedi cwpla fy mhythefnos cyntaf yn yr ysgol ac nawr dw i yn ol yn y brifsygol am bythefnos. Aeth fy amser yn yr ysgol yn eitha da. Mwynheuais i fe ac ymdopais i gymryd y dosbarth olaf ar ddydd Gwener. Roedd poepth yn iawn.
Fodd bynnag, sa i wedi cael llawer o gyfloedd siarad Cymraeg dros y pythefnos diwetha, a pan esi i fy more coffi lleol, bore dydd Sadwrn, ro'ni'n ei chael hi'n anodd siarad ar y dechreau, deodd dim byd yn llifo a allwn i ddim meddwl beth i'w ddweud o gwbl, ond wedi awr roedd pethau yn gwella, diolch byth. Es i i wylio'r rygbi wedyn gyda rhai o'r bore coffi, felly siaradais i Gymraeg am y rhan mwya o'r dydd yn y diwedd. Mae rhaid i fi wneud yn siwr fy mod i'n gwneud yr ymdrech siarad Cymraeg pan fydda i yn ol yn yr ysgol mewn pythefnos arall. Does dim esgus 'da fi gan fod merch sy'n gwneud yr un cwrs a fi sy'n gallu siarad Cymraeg yn yr un ysgol a fi. Felly dylwn i fod yn siarad a hi yn Gymraeg yn lle Saesneg trwy'r amser! Ar ol cael sioc pa mor wael oedd fy Nghymraeg, dw i'n credu y bydda i'n bendant siarad Cymraeg a hi o hyn ymlaen.
Dw i dal mewn dau olwg am fynd i ysgol Cymraeg ar fy ail leoliad. Sa i'n credu y bydd fy Nghyraeg yn ddigon da mewn pryd ond cawn ni weld. Bydd rhaid i fi wneud mwy o ymdrech, dw i'n gwybod cymaint a hynny.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment