Dw i wedi cwpla fy mhythefnos cyntaf yn yr ysgol ac nawr dw i yn ol yn y brifsygol am bythefnos. Aeth fy amser yn yr ysgol yn eitha da. Mwynheuais i fe ac ymdopais i gymryd y dosbarth olaf ar ddydd Gwener. Roedd poepth yn iawn.
Fodd bynnag, sa i wedi cael llawer o gyfloedd siarad Cymraeg dros y pythefnos diwetha, a pan esi i fy more coffi lleol, bore dydd Sadwrn, ro'ni'n ei chael hi'n anodd siarad ar y dechreau, deodd dim byd yn llifo a allwn i ddim meddwl beth i'w ddweud o gwbl, ond wedi awr roedd pethau yn gwella, diolch byth. Es i i wylio'r rygbi wedyn gyda rhai o'r bore coffi, felly siaradais i Gymraeg am y rhan mwya o'r dydd yn y diwedd. Mae rhaid i fi wneud yn siwr fy mod i'n gwneud yr ymdrech siarad Cymraeg pan fydda i yn ol yn yr ysgol mewn pythefnos arall. Does dim esgus 'da fi gan fod merch sy'n gwneud yr un cwrs a fi sy'n gallu siarad Cymraeg yn yr un ysgol a fi. Felly dylwn i fod yn siarad a hi yn Gymraeg yn lle Saesneg trwy'r amser! Ar ol cael sioc pa mor wael oedd fy Nghymraeg, dw i'n credu y bydda i'n bendant siarad Cymraeg a hi o hyn ymlaen.
Dw i dal mewn dau olwg am fynd i ysgol Cymraeg ar fy ail leoliad. Sa i'n credu y bydd fy Nghyraeg yn ddigon da mewn pryd ond cawn ni weld. Bydd rhaid i fi wneud mwy o ymdrech, dw i'n gwybod cymaint a hynny.
Tuesday, 21 October 2008
Monday, 6 October 2008
Y Dydd Cyntaf
Ces i fy nydd cyntaf yn yr ysgol heddiw, aeth e'n dda, ond mae rhaid i fi gyfaddef yr oedd e'n gyflwniad fwyn. Cawson ni daith o gwmpas yr ysgol ac y gylchdal. Siaradais i a fy mentor ac mae'n debyg ei fod e'n ddigon neis. Dw i'n credu na fydd yr wythnos hon yn rhy anodd. Bydd llawer o arsylwi a cwrdd a llawer o bobl gwahanol, ond bydd yr wythnos nesa yn fwy gwaith.
Wednesday, 1 October 2008
Dydd Mercher
Cwrddais i a fy mentor yn y brifysgol heddiw fydd yn fy helpu i yn ystod fy amser yn yr ysgol lle dw i'n mynd. Mae'n debyg ei fod e'n iawn. Fi a'r person arall sy'n gwneud cemeg fydd yn rhannu yr un mentor. Dim ond yfory sydd ar ol yn y brifysgol nawr gan na fyddwn ni i mewn ddydd Gwener. Mae rhaid i ni gyraedd yr ysgol cyn pum munud ar hugain wedi wyth yn y bore ddydd Llun nesa. Mae'n debyg eu bod nhw'n cwpla pum munud i dri bob bydd - o leia dyna phan fydd y dysglybion yn mynd adre, ond dw i'n siwr y bydda i'n aros am hwy na hynny gan baratoi am y dydd nesa!
Mae nhw wedi cyfleu llawer o waith i'w wneud i ni ta beth. ond roeddwn i'n disgwyl hynny.
Mae nhw wedi cyfleu llawer o waith i'w wneud i ni ta beth. ond roeddwn i'n disgwyl hynny.
Subscribe to:
Posts (Atom)