Wednesday, 27 February 2008

Gwyl Dewi

Dw i wedi bod yn brysur iawn yr wythnos 'ma. Dechreauais i wneud rhai gwaith profiad yn fy hen ysgol ddoe - achos fy mod i'n ystyried gwneud PGCE (hyfforddi athro) ym mis Medi. Mae gradd mewn cemeg 'da fi felly gallwn i ddysgu cemeg mewn ysgol uwchradd ac yn y dyfodol hoffwn dysgu cemeg mewn ysgol uwchradd Cymraeg. Does dim digon o bobl sy'n gallu addysgu y gwyddoniaethiau trwy Gymraeg ar hyn o bryd, a baswn i'n dwlu gwneud rhwybeth yn defynyddio'r iath.
Dw i'n edrych ymlaen at y penwythnos achos y bydd ysgol un dydd ym Margoed ar y dydd Sadwrn (Gwyl Dewi) ac wedyn af i i ginio Gwyl Dewi yn Llancaiach Fawr yn y nos. Ar y dydd Sul bydda i'n symud i fy fflat newydd yn Abertawe - Felly llawer i bethau i'w wneud ar y penwythnos.
Dw i'n mynd i orffen nawr achos bod "The Big Welsh Challenge" ar y teledu a dw i esiau gwilio fe!

Friday, 22 February 2008

Abertawe

Wel ar y ail o Fawrth, bydda i'n symud yn ol i Abertawe. Dw i'n llogi fflat yn y Marina a bydda i'n dechreu fy swydd newydd ar y degfed o Fawrth. Dw i'n edrych ymlaen at fyw yn Abertawe eto. Symudais i yno'r tro cyntaf pan ddechraeuais i Brifysgol yn Abertawe pan o'n i'n ddeunaw oed ac arhosais i yno ar ol gadael prifysgol. Gadawais i i fynd teithio o gwmpas Awstralia a Thailand. Yr wythnos 'ma dw i wedi edrych ar fflatiau a dewisais i un ar ddydd Mercher.
Dydd Sadwrn diwetha, es i i'r ysgol un dydd ym Medwas. Edrychon ni ar y negyddol a roedd e'n ddiddorol iawn. Dw i wastad yn mwynhau yr ysgol un dyddau!
Gobeithio pan bydda i'n symud i Abertawe bydd llawer mwy cyfle i siarad Cymraeg. Dw i'n gwybod am y Ty Tawe yng Nghanolfan y dre a dw i'n meddwl bod nhw'n cynnal sadwrn Siarad ar fore dydd Sadwrn. Bydda i'n gallu mynd ymlaen gyda'r cwrs ym Mhentre Egwlys achos bod y cwrs yn y bore a bydd fy swydd yn y noswaith. Dw i eisiau sefyll yr arholiad canolradd yn yr Haf a gwneud cwrs llawn amser am pedwar wythos ym Mhrifysgol Caerdydd hefyd, ond byddan ni'n gweld.

Thursday, 14 February 2008

Wythnos Diog

Dw i wedi bod yn diog yr wythnos yma, achos does dim dosbarthiadau. Ond Es i i'r Bore Coffi ym Medwas (dydd Llun) ac yn Y Coed Duon (y bore yma). Fel arfer dw i ddim yn gallu mynd i'r bore coffi ym Medwas - achos bob dosbarth gyda fi ar y un amser. Felly ro'n i eisau gwnaud y mwya o'r cyfle yr wythnos yma. Dw i'n mwynhau'r bore coffi achos eu bod nhw'n cyfle i gael sgwrs yn Gymraeg am beth bynnag. Llawer o bobl sy'n mynd i'r bore yn Y Coed Duon (tua ugain) a phob wythnos y fenywod i gyd eistedd ar y un ochr ac y dynion i gyd eistedd ar yr ochr arall. Mae llawer o lefel gwahaniol o Fynediad i bobl sy'n rhugl.
Ar ddydd Sadwrn mae ysgol un dydd ym Medwas - bydd e'n dechrau am hanner awr wedi naw a bydd e'n gorffen hanner awr wedi tri. Fel arfer mae un neu dau ysgol un dydd sy'n cael ei drefnu gan Coleg Gwent o gwmpas Gwent y mis. Yr un olaf oedd yn Nhrefnwy pythefnos yn ol, ond es i ddim i'r hwn. Maen nhw'n defnyddiol iawn.
Dw i angen mynd i lawr Abertawe i chwilio am Fflat cyn bo hir - bydda i'n dechrau fy swydd newydd y degfed o Fawrth a dw i ddim wedi gwneud unrhwy beth eto. Dw i wastad gadael pethau i'r munud olaf! Dylwn i ddechrau ffonio o gwmpas yfory.
Bydd hynny'n gwneud heddiw - Siarad eto'n fuan

Friday, 8 February 2008

Hanner Tymor

Gorffenon ni am hanner tymor heddiw. Felly penderfynodd Maldwyn (ein tiwtor) y basen ni orffen yn gynnar a mynd i'r bore coffi yn Llantrisant. Do'n i ddim wedi bod yn Llantrisant o'r blaen, sylweddolais i ddim bod y pentre mor neis. Mae hi'n pentre bach a phert iawn. Aethon ni i'r "Butchers" i gwrdd a'r grwp sy'n siarad Cymraeg. Dw i'n mwynhau cael y cyfle siarad Cymraeg, a roedd e'n diddorol crwdd a siarad a phobl newydd.
Achos ei fod e'n hanner tymor wythnos nesa, dw i'n meddwl y bydda i'n ceisio mynd i lawr Caerdydd i'r bore coffi ar bore dydd Mawrth yn y Mochen Du. Efallai y bydda i'n mynd i'r Mochen Du yfory am un neu dau peint achos y bydda i yng Nghaerdydd am y rygbi. Does dim tocyn gyda fi, ond dw i'n sicr y bydda i'n feindio ffordd i fwynhau fy hunan!
Ta beth: pob lwc i Gymru yfory, bydda i'n ceisio rhoi fy meddyliau am y gem dydd Sul neu dydd Llun. (Dydd Llun siwr o fod, dw i'n meddwl y bydd pen tost gyda fi ar ddydd Sul!)

Hoffwn i ddweud: diolch yn fawr i Emma a Neil Wyn am y sylwadau caredig ac anogaeth (=encouragement??)

Wednesday, 6 February 2008

Y dechreuad

Achos bod hyn yn fy mhost cyntaf, hoffwn i ddechrau trwy esbonio pam dw i'n gwneud blog yn y lle cyntaf. Dw i wedi cyrraedd y pwynt ble dw i angen ymarfer tu ma's i'r dosbarth cymaint a phosib. Ond dw i ddim yn nabod unrhywun sy'n gallu siarad Cymraeg, felly mae'n anodd i fi gael cyfleoedd i siarad a phoble arall trwy Gymraeg. Fel arfer bydda i'n mynd i ddigwyddiad sy'n cael eu trefnu gan Fenter Iaith Caerffili fel y bore Coffi yn y Coed Duon, ond dw i eisiau gwthio fy hunan mwy na hyn! Felly, Dyma rheswm am y blog.
Mae tri dosbarth gyda fi'r wythnos, felly bydda i'n ceisio blog ar ol pob un. Byddan ni'n gweld am ba mor hir y bydda i'n gallu cadw hyn lan?! Ar hyn o bryd dw i'n eitha brwd ac mae'r amser gyda fi, ond bydda i'n dechrau swydd newydd ym mis Mawrth, felly mae'n debynu ar faint o amser sy gyda fi ar ol hynny. Bydda i'n wastad ceisio blog unwaith yr wythnos o leia.
Wnes i ddim GCSE Gymraeg mewn ysgol - dewisais i Ffrangeg yn lle, ond doedd dim unrhy diddordeb gyda fi yn iaithiau o gwbl, pan ro'n i yn ysgol. Y tro cyntaf ceisias i ddysgu Cymraeg oedd ar y cwrs Wlpan yn Abertawe - saith mlynedd yn ol. Ond wnes i ddim byd tu ma's y dosbarth ac wnes i ddim dysgu llawer. Anghofias i bobeth cyn bo hir. Y llynedd des yn ol i Gymru ar ol teithio o gwmpas Awtralia a Thailand a phenderfynais i geisio dysgu unwaith eto. Doedd dim swydd gyda fi felly roedd llawer o amser gyda fi. Es i yn ol dros fy nodiau o'r cwrs Wlpan - treulio llawer o oriau bob dydd, hefyd benthycais i'r llyfr "teach yourself Welsh". Yn araf, Gweithiais i trwy y dau ohonyn nhw ac erbyn mis Medi ro'n i'n barod dechrau y cwrs Canolradd. Mwynhauais i' cwrs yma, ond dim ond dau awr yr wythnos oedd e. R'n i eisiau cwrs mwy dwys na hynny pan ffeindias i ma's am y cwrs dwys ym Mhentre Eglwys dau mis yn ol, ymunais i a'r cwrs yn syth bant.