Tuesday 21 October 2008

Yn ol yn y Brifysgol

Dw i wedi cwpla fy mhythefnos cyntaf yn yr ysgol ac nawr dw i yn ol yn y brifsygol am bythefnos. Aeth fy amser yn yr ysgol yn eitha da. Mwynheuais i fe ac ymdopais i gymryd y dosbarth olaf ar ddydd Gwener. Roedd poepth yn iawn.
Fodd bynnag, sa i wedi cael llawer o gyfloedd siarad Cymraeg dros y pythefnos diwetha, a pan esi i fy more coffi lleol, bore dydd Sadwrn, ro'ni'n ei chael hi'n anodd siarad ar y dechreau, deodd dim byd yn llifo a allwn i ddim meddwl beth i'w ddweud o gwbl, ond wedi awr roedd pethau yn gwella, diolch byth. Es i i wylio'r rygbi wedyn gyda rhai o'r bore coffi, felly siaradais i Gymraeg am y rhan mwya o'r dydd yn y diwedd. Mae rhaid i fi wneud yn siwr fy mod i'n gwneud yr ymdrech siarad Cymraeg pan fydda i yn ol yn yr ysgol mewn pythefnos arall. Does dim esgus 'da fi gan fod merch sy'n gwneud yr un cwrs a fi sy'n gallu siarad Cymraeg yn yr un ysgol a fi. Felly dylwn i fod yn siarad a hi yn Gymraeg yn lle Saesneg trwy'r amser! Ar ol cael sioc pa mor wael oedd fy Nghymraeg, dw i'n credu y bydda i'n bendant siarad Cymraeg a hi o hyn ymlaen.
Dw i dal mewn dau olwg am fynd i ysgol Cymraeg ar fy ail leoliad. Sa i'n credu y bydd fy Nghyraeg yn ddigon da mewn pryd ond cawn ni weld. Bydd rhaid i fi wneud mwy o ymdrech, dw i'n gwybod cymaint a hynny.

Monday 6 October 2008

Y Dydd Cyntaf

Ces i fy nydd cyntaf yn yr ysgol heddiw, aeth e'n dda, ond mae rhaid i fi gyfaddef yr oedd e'n gyflwniad fwyn. Cawson ni daith o gwmpas yr ysgol ac y gylchdal. Siaradais i a fy mentor ac mae'n debyg ei fod e'n ddigon neis. Dw i'n credu na fydd yr wythnos hon yn rhy anodd. Bydd llawer o arsylwi a cwrdd a llawer o bobl gwahanol, ond bydd yr wythnos nesa yn fwy gwaith.

Wednesday 1 October 2008

Dydd Mercher

Cwrddais i a fy mentor yn y brifysgol heddiw fydd yn fy helpu i yn ystod fy amser yn yr ysgol lle dw i'n mynd. Mae'n debyg ei fod e'n iawn. Fi a'r person arall sy'n gwneud cemeg fydd yn rhannu yr un mentor. Dim ond yfory sydd ar ol yn y brifysgol nawr gan na fyddwn ni i mewn ddydd Gwener. Mae rhaid i ni gyraedd yr ysgol cyn pum munud ar hugain wedi wyth yn y bore ddydd Llun nesa. Mae'n debyg eu bod nhw'n cwpla pum munud i dri bob bydd - o leia dyna phan fydd y dysglybion yn mynd adre, ond dw i'n siwr y bydda i'n aros am hwy na hynny gan baratoi am y dydd nesa!
Mae nhw wedi cyfleu llawer o waith i'w wneud i ni ta beth. ond roeddwn i'n disgwyl hynny.

Monday 29 September 2008

Wythnos 3 y cwrs TAU

Ces i fy nosbarth astudiau proffesiynol heddiw, lle dyn ni'n trafod y pwnc yn Gymraeg (Rheoli ymddygiad y dosbarth oedd y testun). Mae'n cyfle da i fi ymarfer fy Nghymraeg trwy drafod pethau nad ydw i'n cael siarad amdanyn fel arfer - pethau sy'n dipyn bach yn haniethol. Dw i'n cael anodd achos hyn ond gobiethio bydd e'n fy helpu fi ehangu fy iaith.
Dw i'n edrych ymlaen at yr wythnos nesa pan fydda i yn yr ysgol, bydd un arall o'r cwrs TAU sy'n gwneud cemeg hefyd yno, ac maen nhw'n siarad Cymraeg yn rhugl felly gobiethio y galla i cael sians ymarfer a hi bob dydd - tipyn bach o leia, ta beth. Hoffwn i gael edrych ar ddosbarth Cymraeg, tasai fe'n bosib, dw i'n credu bydda i'n dilyn un grwp o gwmpas am un dydd o leia ac eistedd i mewn ar bob un o'u dosbarthiadau am y dydd hwnnw. Cawn ni weld. Ond dw i'n sicr y caf i'r cyfle cael sgwrs a un neu ddau o'r athro Cymraeg er y bydda i yno gwneud cemeg.

Thursday 25 September 2008

Dim ond 1 wythnos nes i fi fynd yn ol i ysgol

Mae un wythnos ar ol 'da fi yn y prifysgol ac wedyn bydda i'n mynd i wneud fy ymarfer cyntaf mewn ysgol uwchradd. Bydd e'n ddiddorol, dw i'n siwr! Ond, dim ond arsylwi bydda i'n ei wneud am y pythefnos cyntaf, dw i'n credu. Er gwaethaf hynny bydd llawer o waith i'w wneud gyda aseiniadau i'w hysgrifennu. Ac hefyd, rhaid i fi gadw at wella fy Nghymraeg. Bydd rhaid i fi wneud sicr na fydda i'n anghofio amdano fe wrth i fi ganolbwnio ar y gwaith ysgol i gyd, fel arall fydda i ddim yn barod i fynd i ysgol Cymraeg ar ol y Nadolig ar gyfer fy ail ymarfer. Wedi'r cyfan yr holl diben penderfynais i wneud y TAR oedd i wneud rhybeth lle byddwn i'n cael y cyfle defnyddio Cymraeg.

Wednesday 24 September 2008

Mae hi wedi bod yn amser hir!

Dw i wedi penderfynnu aildechrau y blog. Dw i'n gwneud TAR (PGCE yn Saesneg) uwchradd - i ddysgu Cemeg. Mae rhaid i ni dreilio amser mewn dwy ysgol. Dw i'n mynd i ysgol Saesneg yn gyntaf ond gobeithio yr af i i ryw ysgol Cymraeg (dysgu Cemeg trwy'r gyfrwng Gymraeg) ar ol y Nadolig i wneud fy ail placement.
Cyn hynny bydd rhaid i fi weithio'n galed i godi safon fy Nghymraeg! Erbyn hyn, dw i'n dysgu Cymraeg ers tamaid dros un flwydden. Dw i'n dal i wneud cwrs Cymraeg hefyd (Uwch 3) a fel rhan o'r cwrs TAG dyn ni'n dilyn cwrs "astudiau proffesiynol", drwy drugaredd mae 'na grwp Cyrmaeg a dw i wedi ymuno a nhw, felly er bod y darlithoedd yn Saesneg - yn ein grwp, bob wythnos, dyn ni'n trafod y pwnciau yn Gymraeg a dyn ni'n cael gwneud y aseiniadau yn Gymraeg hefyd os oes eisau arnon ni. Dw i ddim wedi penderfynnu eto a wna i nhw yn Cymraeg neu Saesneg. Dw i'n meddwl y gwna i nhw yn Saesneg oherwyd fy mod i'n methu credu bod fy Nghymraeg yn ddigon da.
Dyna prif reswm dw i'n gwneud y blog eto - Mae angen yr ymarfer arna i. Y cynllun yw, defnyddio hyn fel rhyw fath o ddyddiadur a postio cymaint a phosib - cawn ni weld!

Wednesday 27 February 2008

Gwyl Dewi

Dw i wedi bod yn brysur iawn yr wythnos 'ma. Dechreauais i wneud rhai gwaith profiad yn fy hen ysgol ddoe - achos fy mod i'n ystyried gwneud PGCE (hyfforddi athro) ym mis Medi. Mae gradd mewn cemeg 'da fi felly gallwn i ddysgu cemeg mewn ysgol uwchradd ac yn y dyfodol hoffwn dysgu cemeg mewn ysgol uwchradd Cymraeg. Does dim digon o bobl sy'n gallu addysgu y gwyddoniaethiau trwy Gymraeg ar hyn o bryd, a baswn i'n dwlu gwneud rhwybeth yn defynyddio'r iath.
Dw i'n edrych ymlaen at y penwythnos achos y bydd ysgol un dydd ym Margoed ar y dydd Sadwrn (Gwyl Dewi) ac wedyn af i i ginio Gwyl Dewi yn Llancaiach Fawr yn y nos. Ar y dydd Sul bydda i'n symud i fy fflat newydd yn Abertawe - Felly llawer i bethau i'w wneud ar y penwythnos.
Dw i'n mynd i orffen nawr achos bod "The Big Welsh Challenge" ar y teledu a dw i esiau gwilio fe!